Teitl y ddeiseb: Gwneud y Senedd yn fwy cynrychiadol o boblogaeth Cymru Geiriad y ddeiseb: Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Senedd Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno Cwotâu ar sail Rhyw ac Ethnigrwydd yn ei systemau etholiadol ac mae’n galw am fwy o gynrychiolaeth i bobl o gefndir anabledd. At hynny, mae’n gofyn pa gamau y mae’r Senedd hon a’i phum rhagflaenydd wedi’u cymryd i sicrhau ei bod yn adlewyrchu Cymru gyfan yn well. |
Mae Adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn datgan y canlynol:
The Senedd must make appropriate arrangements with a view to securing that Senedd proceedings are conducted with due regard to the principle that there should be equality of opportunity for all people.
Dywedodd Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd y Bumed Senedd, er bod y Senedd wedi "perfformio'n gymharol gryf" o ran cynrychiolaeth gytbwys rhwng y rhywiau, y bu "prinder amrywiaeth weladwy o ran ethnigrwydd ac anabledd".
Mae ffiniau cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ran gweithredu mesurau i wella amrywiaeth yn gymhleth. Bydd y papur briffio hwn yn edrych ar gyfansoddiad rhyw ac ethnig presennol y Senedd, yn ogystal â chynlluniau diwygio yn y dyfodol.
Ers ei chreu, mae canran y menywod sy'n cael eu hethol i'r Senedd bob amser wedi bod uwchlaw'r cyfartaledd byd-eang. Yn 2003, y Cynulliad Cenedlaethol, fel y’i gelwid ar y pryd, oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol nifer gyfartal o ddynion a menywod. Ers hynny, mae canran yr Aelodau sy’n fenywod wedi gostwng, er ei bod bob amser wedi bod yn uwch na 40 y cant.
Yn etholiad y Senedd yn 2021, etholwyd tri Aelod o leiafrif ethnig. Dyma'r un nifer â’r etholiad yn 2016. Mohammad Asghar, a etholwyd yn 2007, oedd yr Aelod cyntaf o’r Senedd o gefndir lleiafrif ethnig.
Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr Aelodau o gefndir lleiafrif ethnig a etholwyd ym mhob un o etholiadau’r Senedd/Cynulliad. Mae hyn yn cyfeirio at y ffigurau a etholwyd, ac nid yw'n cynnwys newidiadau mewn Aelodaeth yn ystod tymor y Cynulliad/Senedd. Nid yw'n rhoi cyfrif am is-etholiadau.
Etholiad |
Aelodau o leiafrif ethnig |
Canran |
1999 |
0 |
0% |
2003 |
0 |
0% |
2007 |
1 |
1.6% |
2011 |
2 |
3.3% |
2016 |
3 |
5% |
2021 |
3 |
5% |
Ffynonellau: Ymchwil y Senedd, Etholiad y Senedd yn 2021: Papur briffio, Gorffennaf 2021; Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Briff Ymchwil Canlyniadau etholiad y Cynulliad yn 2016, Mehefin 2016; Ymchwil y Senedd, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Canlyniadau Etholiad y Cynulliad 2011, Mai 2011.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf ym mis Mehefin. Roedd y rhaglen yn cynnwys dau Fil ar ddiwygio'r Senedd:
§ Bil i ehangu maint y Senedd i 96 Aelod a gweithredu diwygiadau eraill;
§ Bil ar wahân i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr i'w hethol i'r Senedd, "gyda'r nod o sicrhau bod [y Senedd] yn cynrychioli'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n well."
Disgwylir i'r ddau Fil gael eu cyflwyno ar ryw adeg yn nhymor yr hydref.
Ar ôl cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y canlynol wrth y Senedd:
Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr a etholwyd i'r Senedd hon yng Nghymru.
Rydym ni'n hyderus fod ganddom y cwmpas cyfreithiol yma yng Nghymru i ddeddfu yn y maes hwn, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil gyda ffydd yn y sail yr ydym ni'n gwneud hynny arni. Ond mae hwn yn faes lle gallai safbwyntiau eraill fod yn bosibl, a lle gellid wynebu her. I sicrhau nad yw'r prif ddiwygiadau yn agored i her, rydym ni wedi rhannu'r ddwy agwedd.
Ar 15 Chwefror 2021, agorodd cynllun peilot y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru i ymgeiswyr a oedd yn sefyll etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.
Agorodd yr ail gam ym mis Hydref 2021, ac roedd wedi’i dargedu’n benodol i gefnogi ymgeiswyr anabl sy'n ceisio cael eu hetholiad yn yr etholiadau llywodraeth leol i’w cynnal ym mis Mai 2022. Cafodd y gronfa ei darparu gan Anabledd Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gallai ymgeiswyr wneud cais am gymorth gyda’r costau ychwanegol i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â nam a fyddai'n effeithio ar gyfranogiad yn yr etholiad. Roedd y rhain yn cynnwys:
§ Adnoddau, offer a meddalwedd gynorthwyol;
§ Teithio o amgylch yr etholaeth os na fydd yr ymgeisydd yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus;
§ Gweithwyr cymorth cyfathrebu fel Iaith Arwyddion Prydain, dehonglwyr, palanteipyddion a siaradwyr gwefusau.
Cynhaliwyd adolygiad o'r cynllun peilot rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2023.
Ar 16 Mai 2023, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw,fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu i sicrhau y bydd y gronfa ar gael ar gyfer etholiadau’r dyfodol.
Mae'r mater o gyflwyno cwotâu yn y Senedd wedi cael sylw gan bwyllgorau olynol.
Sefydlwyd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Chwefror 2017 i roi cyngor ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol, fel y’i gelwid ar y pryd. Roedd cwmpas y Panel yn cynnwys edrych ar amrywiaeth cynrychiolaeth yn seneddau’r dyfodol. Dadleuodd y dylai unrhyw system etholiadol yn y dyfodol “annog a chefnogi canlyniad lle yr etholir cynrychiolwyr sy’n adlewyrchu'r boblogaeth yn fras”.
Argymhellodd y Panel Arbenigol fod cwotâu rhywedd yn cael eu cynnwys yn y systemau etholiadol a ddefnyddir gan y Cynulliad yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd hefyd yn cydnabod bod cyfyngiadau sylweddol ar gymhwysedd y Cynulliad, fel y’i gelwid ar y pryd, i ddeddfu yn y maes hwn.
Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Seneddym mis Medi 2019 i drafod argymhellion y Panel Arbenigol. Dywedodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd y canlynol:
[Mae’r Pwyllgor] yn cefnogi’n gryf yr egwyddor y dylai’r Senedd fod yn gytbwys o ran rhywedd, ac y dylai ei haelodaeth fod yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd, anabledd a nodweddion gwarchodedig eraill.
Fodd bynnag, dywedodd hefyd ei fod wedi “derbyn cyngor cyfreithiol sy'n awgrymu y gallai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth gael ei gyfyngu'n sylweddol.”
Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru geisio diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i sicrhau y byddai mesurau i ethol Senedd fwy amrywiol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Argymhellodd hefyd y:
Dylai pwyllgor yn y Chweched Senedd wneud rhagor o waith ar gwotâu amrywiaeth mewn perthynas â nodweddion heblaw rhywedd i lywio penderfyniadau ynghylch a fyddai cwotâu o'r fath yn ddulliau priodol o annog Senedd fwy amrywiol i gael ei hethol.
Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 gyda’r nod o wneud argymhellion ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd mewn pryd ar gyfer yr etholiad yn 2026.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol integredig. Argymhellodd hefyd fod:
pwyllgor perthnasol yn ystyried sut y gellir gwneud rhagor o waith i ystyried rhinweddau a goblygiadau cwotâu amrywiaeth deddfwriaethol ar gyfer nodweddion ar wahân i rywedd.
Datganodd y Pwyllgor y:
Daeth ein Pwyllgor i’r casgliad unfrydol y dylid datblygu cwotâu rhywedd integredig a rhestru ‘am-yn-ail’ gorfodol fel rhan o’r system rhestr newydd.
Datganodd ymhellach:
Rydym yn cydnabod bod gallu deddfwriath i gyflawni’r argymhelliad hwn, fel gyda phob argymhelliad, yn ymwneud â ph’un a all gael ei gyflawni o fewn cyfyngiadau cymhwysedd y Senedd.
Mewn perthynas â holl gynigion y Pwyllgor ar amrywiaeth, datganodd yr adroddiad y:
byddai’n rhaid i unrhyw Fil sy’n cyflwyno mesurau amrywiaeth gael ei ddrafftio mewn ffordd nad yw’n ymwneud ag unrhyw fater a gedwir yn ôl, gan gynnwys y mater sy’n ymwneud â ‘chyfle cyfartal’.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau priodol i sicrhau nad yw ein hargymhellion ar ddiwygio’r Senedd ar gyfer 2026 yn cael eu rhoi mewn perygl gormodol o atgyfeiriad i’r Goruchaf Lys.
Gwnaeth y Pwyllgor argymhellion eraill hefyd ynghylch amrywiaeth yn y Senedd. Roedd y rhain yn cynnwys:
§ Dylai gofyniad deddfwriaethol gael ei osod ar awdurdodau datganoledig yng Nghymru i gasglu a chyhoeddi data dienw ar amrywiaeth ymgeiswyr.
§ Dylid cynnwys darpariaethau mewn Bil i ddiwygio'r Senedd sy'n annog pob plaid wleidyddol sydd ag ymgeiswyr yn sefyll mewn etholiad Senedd i gyhoeddi strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant.
Yn y Senedd, mae’r Aelodau wedi trafod cwotâu rhywedd ac amrywiaeth yn y Senedd ar sawl achlysur, gan gynnwys mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar 27 Mehefin 2023.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |